Cymraeg


Llinell gymorth Cyfranddeiliaid
Mae pensiynau cyfranddeiliaid wedi bod ar gael ers 6ed Ebrill 2001 ac maent yn chwarae rôl amlwg yn y trefniadau cynilo cyffredinol mae pobl yn eu gwneud ar gyfer eu hymddeoliad. Wrth wneud eu dewisiadau ar gyfer cynilion ymddeol gallai pobl fod angen rhagor o wybodaeth ac eglurhad. Bydd y Llinell Gymorth Cyfranddeiliaid yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad diduedd i aelodau o'r cyhoedd ar unrhyw agwedd ar bensiynau cyfranddeiliaid.
Mae'r wefan hon yn canolbwyntio'n bennaf ar eich cynghori am eich hawliau. Un o'r hawliau gwerthfawr a allai fod gennych yw bod yn rhaid i'ch cyflogwr sicrhau bod cynllun cyfranddeiliaid ar gael i chi.
Rydym wedi cynllunio coeden penderfyniadau cwestiwn ac ateb i'ch helpu i benderfynu a yw hyn yn berthnasol i chi. Cliciwch yma os ydych am roi cynnig arni nawr.
Caiff y Llinell Gymorth hon ei rhedeg a'i staffio gan Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn sefydliad annibynnol sy'n cynorthwyo aelodau o'r cyhoedd sydd â phroblemau gyda chynlluniau pensiwn cwmni neu gynlluniau pensiwn personol. Mae'n gweithredu llinell gymorth genedlaethol sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor (nid cyngor ariannol) ar bob agwedd ar bensiynau galwedigaethol, personol a phensiynau cyfranddeiliaid.
Ni wnaiff y Llinell gymorth Cyfranddeiliaid gynorthwyo wrth farchnata pensiynau cyfranddeiliaid na rhoi cyngor ariannol, ond bydd yn cynorthwyo pobl sy'n ceisio penderfynu ynglŷn ag ymuno â chynllun pensiwn cyfranddeiliaid drwy eu harwain drwy'r coed penderfyniadau a gynlluniwyd gan yr FSA. Bydd y llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9.00a.m i 5.00p.m. ond gall pobl sy'n ffonio y tu allan i oriau swyddfa recordio eu manylion a bydd rhywun yn cysylltu â hwy yn ystod oriau swyddfa.
Nid llinell gymorth i gyflogwyr yw hon. Mae llinell gymorth arbennig iddynt hwy a weithredir gan Gyllid a Thollau EM. Y rhif ffôn yw 0845 7143 143.